Cymunedau lleol
Pan fyddwch chi’n ymgymryd â gwaith ymchwil, gall fod yn hawdd i’ch bywyd cyfan gylchdroi o amgylch y brifysgol. I rai, gall fod yn weithle, yn ofod cymdeithasol, a hyd yn oed yn ofod byw hefyd. Pan fo angen ymwneud â’r byd y tu allan, gall hyn fod am resymau byr neu ymarferol yn aml. Efallai y byddwch chi’n mynd i’r dafarn gyda’ch ffrindiau prifysgol neu i’r archfarchnad i wneud eich siopa am yr wythnos. Dyma, o leiaf, sut rydw i yn aml wedi cysylltu â’r ardal ehangach o amgylch fy mhrifysgol.
Yn ystod fy astudiaethau israddedig, nid oedd hyn yn beth rhyfedd yn fy nhyb i. Roeddwn i’n adnabod pobl trwy’r brifysgol yn unig, a hyd yn oed pan oedden ni’n cymdeithasu y tu allan i’r brifysgol, doeddwn i ddim yn dod i gyswllt ag unrhyw un y tu hwnt i’m grwpiau myfyrwyr. Efallai bod hynny oherwydd bod Llundain mor fawr, felly arhosais o fewn y grwpiau o fyfyrwyr yr oeddwn i’n eu hadnabod. Ond rydw i bellach yn byw mewn tref fechan yng Nghymru, ac rydw i wedi darganfod bod y gymuned yno’n teimlo’n agos iawn ataf – felly rydw i’n dechrau ystyried fy amser yn y dref ei hun fel mwy nag estyniad o fy mywyd prifysgol yn unig.
Mae hyn yn sicr yn beth da. Un o drapiau mawr y brifysgol, yn enwedig wrth i chi ymgymryd ag astudiaethau uwchraddedig, yw sut mae’n gallu rheoli eich bywyd. Efallai mai fi sy’n rheoli fy amserlen y rhan fwyaf o’r amser, ond gyda’r holl waith sydd angen i mi ei wneud mae hynny’n dal i olygu diwrnodau rheolaidd o weithio o naw tan bump yn y llyfrgell. Lle rydw i’n astudio ar gyfer fy PhD, mae’r brifysgol o fewn y dref fwy neu lai, ond i gyrraedd y dref, mae angen teithio i lawr bryn sylweddol – sydd fel arfer yn golygu fy mod i’n treulio o leiaf awr yn y dref pan fyddaf yn ymweld â hi.
Er gwaethaf hyn, rwy’n teimlo bod gwneud y daith i’r dref yn bwysig i’m cadw’n gall trwy holl ofynion bywyd fel myfyriwr uwchraddedig. Rwyf hyd yn oed wedi bod yn ystyried rhagor o ffyrdd y gallwn gysylltu â chymuned y dref, megis edrych ar ddigwyddiadau a grwpiau sy’n cael eu cynnal ynddi. Nid y brifysgol yw’r cyfan sydd i fywyd, er y gall deimlo felly’n aml i fyfyrwyr uwchraddedig, a gall treulio amser yn dod i adnabod amgylchedd newydd fod yn hynod fuddiol.